Memorandwm Esboniadol i Reoliadau Mesur y Gymraeg (Buddiannau Cofrestradwy) 2012

 

Paratowyd y Memorandwm Esboniadol hwn gan yr Adran Addysg a Sgiliau ac fe'i gosodir gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y cyd â'r

is-ddeddfwriaeth uchod ac yn unol â Rheol Sefydlog 27.1. 

 

Datganiad y Gweinidog

 

Yn fy marn i, mae'r Memorandwm Esboniadol hwn yn rhoi darlun teg a rhesymol am effaith ddisgwyliedig Rheoliadau Mesur y Gymraeg (Buddiannau Cofrestradwy) 2012.

 

 

 

Leighton Andrews AC

 

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

 

7 Mawrth 2012


 Disgrifiad

 

1.    Mae Rheoliadau Mesur y Gymraeg (Buddiannau Cofrestradwy 2012yn gwneud darpariaeth ynghylch uniondeb Comisiynydd y Gymraeg (“y Comisiynydd”) a Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg (“y Dirprwy Gomisiynydd”).

Materion o ddiddordeb arbennig i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a deddfwriaethol

 

2.    Dim.

Y cefndir

 

3.    Mae adrannau 134 i 139 o Bennod 1 o Ran 8 o Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“y Mesur”) yn gwneud darpariaeth ynghylch uniondeb Comisiynydd y Gymraeg (“y Comisiynydd”) a Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg (“y Dirprwy Gomisiynydd”).

 

4.    O dan adran 134, mae'n ofynnol i'r Comisiynydd ac i'r Dirprwy Gomisiynydd (a ddiffinnir yn Rhan 8 o'r Mesur fel "deiliaid swydd perthnasol" greu a chynnal cofrestr buddiannau.

 

5.    Rhaid i gofrestr buddiannau gynnwys yr holl fuddiannau cofrestradwy sydd gan ddeiliad swydd perthnasol. Mae adrannau 135 i 137 o'r Mesur yn gwneud darpariaeth gysylltiedig ynghylch cyhoeddi cofrestrau buddiannau; gwrthdrawiadau buddiannau; a dilysrwydd gweithredoedd deiliad swydd perthnasol.

 

6.    Mae adran 138 o'r Mesur yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru bennu, drwy reoliadau, pa fuddiannau sy'n fuddiannau cofrestradwy at ddibenion Pennod 1 o Ran 8 o'r Mesur.

 

7.    Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn gan ddibynnu ar y pŵer a ddarperir gan adran 138 o'r Mesur. Mae Rheoliad 2 yn cyflwyno'r Atodlen i'r Rheoliadau sy'n pennu buddiannau cofrestradwy deiliaid swydd perthnasol.

 

8.    Fel y pennir yn adran 150(3) o'r Mesur, yr weithdrefn penderfyniad negyddol a ddefnyddir ar gyfer y rheoliadau hyn.

 

Diben y ddeddfwriaeth a'r effaith y bwriedir iddi ei chael

 

Amcanion Polisi

 

9.    Mae cofrestr buddiannau hygyrch yn rhan sylfaenol o'r bennod sy'n dwyn y teitl 'Uniondeb' ym Mhennod 1 o Ran 8 o'r Mesur. Diben y rheoliadau hyn yw helpu i sicrhau bod y Comisiynydd yn wrthrychol wrth ymgymryd â'i ddyletswyddau. Mae Pennod 1 o Ran 8 o'r Mesur yn mynd i'r afael â gwrthdrawiadau buddiannau a allai godi wrth i'r Comisiynydd neu'r Dirprwy Gomisiynydd arfer eu swyddogaethau.

 

10. Bydd gan y Comisiynydd bwerau rheoleiddiol i osod dyletswyddau ar bersonau neu gategorïau o bersonau a ddisgrifir yn Atodlenni 6 ac 8 i'r Mesur mewn perthynas â chydymffurfio â safonau sy'n ymwneud â'r Gymraeg. Bydd y Comisiynydd hefyd yn gallu ymchwilio i honiadau ynghylch methiant i gydymffurfio â'r safonau a bydd ganddo ystod o bwerau i gymryd camau gorfodi os bydd methiant i gydymffurfio â hwy; ymhlith y dewisiadau gorfodi posibl hyn y mae ei gwneud yn ofynnol i rywun baratoi cynllun gweithredu neu roi cosb sifil iddo. O ystyried y pwerau hyn, bernir ei bod yn bwysig nad oes unrhyw ganfyddiad bod unrhyw unigolyn a fydd yn ysgwyddo rôl y Comisiynydd neu'r Dirprwy Gomisiynydd yn rhagfarnllyd mewn unrhyw ffordd, a bernir hefyd ei bod yn bwysig nad yw'n caniatáu i fuddiannau personol ddylanwadu ar y modd y mae'n cyflawni ei ddyletswyddau proffesiynol.

 

11. Mae gwneud y Rheoliadau hyn, felly, yn gwbl gyson â'r awydd i'r Comisiynydd a'i Ddirprwy weithredu mewn ffordd dryloyw, atebol a diduedd, a byddant yn helpu i sicrhau bod y Comisiynydd a'i Ddirprwy yn cadw at y safonau uchaf o briodoldeb wrth reoli eu busnes. Mae'r egwyddor gonestrwydd yn safonau Nolan yn datgan, yn benodol, fod "dyletswydd ar ddeiliaid swyddi cyhoeddus i ddatgan unrhyw fuddiannau preifat sy’n berthnasol i’w dyletswyddau cyhoeddus a dylent gymryd camau i ddatrys unrhyw wrthdaro a allai godi, gan wneud hynny mewn modd sy’n diogelu buddiannau cyhoeddus".

 

12. O dan amgylchiadau lle y mae gan y Comisiynydd fuddiant cofrestradwy sy'n gysylltiedig ag arfer swyddogaeth, bydd y Mesur yn atal y Comisiynydd rhag arfer y swyddogaeth honno. Mewn achos o'r fath, rhaid i'r swyddogaeth o dan sylw gael ei harfer gan y Dirprwy Gomisiynydd, neu gan aelod arall o staff y Comisiynydd. Lle y byddo'r Dirprwy Gomisiynydd yn cael ei atal rhag arfer swyddogaeth oherwydd gwrthdaro buddiannau, rhaid i'r Comisiynydd wneud trefniadau i'r swyddogaeth gael ei harfer gan rywun heblaw'r Dirprwy Gomisiynydd.

 

 

Effaith

 

13. Mae Rheoliad 2 yn darparu bod buddiannau a restrir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau yn fuddiannau cofrestradwy at ddibenion Pennod 1 o Rhan 8 o Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

 

14. Yn Rhan 1 o'r Atodlen, rhestrir termau diffiniedig a ddefnyddir yn Rhan 2, sef y rhan o'r Atodlen sy'n pennu pa fuddiannau sy'n fuddiannau cofrestradwy.

 

15. Bwriad buddiannau (a) i (d) yw sicrhau ei bod yn ofynnol i'r Comisiynydd ac i'r Dirprwy Gomisiynydd ddatgan yn gyhoeddus amgylchiadau lle y mae ganddynt hwy, neu lle y mae gan bartner neu blentyn (fel y'u diffinnir yn y Rheoliadau) y Comisiynydd neu'r Dirprwy Gomisiynydd, fuddiannau na ddylai deiliad swydd perthnasol arfer swyddogaeth mewn perthynas â hwy. Rhaid i ddeiliad swydd perthnasol gofrestru buddiant o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir isod.

 

16. O dan amgylchiadau lle y mae partner neu blentyn (fel y'u diffinnir gan y Rheoliadau) deiliad swydd perthnasol yn dal swydd gydag unrhyw berson a restrir yn Atodlen 6 neu 8 i'r Mesur, neu lle y mae'n cael ei gyflogi gan y cyfryw berson, bydd yn rhaid cofrestru'r buddiant hwnnw. Gall y personau a restrir yn y naill neu'r llall o'r ddwy Atodlen hyn ddod yn ddarostyngedig i'r safonau sy'n ymwneud â'r Gymraeg, yn unol â'r Mesur, yn ogystal â dod yn ddarostyngedig i'r ystod o bwerau gorfodi sydd ar gael i'r Comisiynydd. Pe byddai gwrthdaro o'r math hwn, mae Llywodraeth Cymru yn teimlo na fyddai'n briodol i'r deiliad swydd perthnasol o dan sylw arfer y swyddogaethau rheoleiddiol perthnasol. 

 

17.  Rhaid i ddeiliad swydd perthnasol hefyd gofrestru buddiant os oes ganddo nhw, neu bartner neu blentyn (fel y'u diffinnir) fuddiant mewn tir neu eiddo deallusol, y mae gan swyddfa'r Comisiynydd (o'i gyferbynnu â'r Comisiynydd fel person preifat) fudd ynddo. Er enghraifft, mewn sefyllfa lle y byddai partner y Comisiynydd yn berchen ar dir a fyddai'n cael ei rentu gan swyddfa'r Comisiynydd, byddai'r person a fyddai'n gweithredu fel Comisiynydd yn cael ei atal rhag arfer unrhyw un neu rai o swyddogaethau'r Comisiynydd mewn perthynas â'r tir hwnnw.

 

18. Mae'r buddiannau cofrestradwy eraill yn ymwneud â'r buddiannau cofrestradwy sydd gan ddeiliaid swyddi perthnasol neu gan eu partneriaid a/neu eu plant. Bydd yn rhaid i ddeiliad swydd perthnasol gofrestru enwau cwmnïau neu gyrff eraill lle y mae ganddo fuddiant llesiannol mewn cyfrannau. Rhaid cofrestru'r buddiant hwnnw ni waeth a yw'n fuddiant y mae'n ei ddal ar ei ben ei hun, neu'n fuddiant sy'n cael ei ddal ar y cyd â phartner a/neu blentyn, neu ar eu rhan. Yn ogystal â buddiannau mewn cyfrannau, rhaid i ddeiliad swydd perthnasol gofrestru unrhyw swyddi cyfarwyddwyr y mae'r deiliad swydd perthnasol hwnnw yn eu dal mewn unrhyw gwmni.

 

19.  Yn ogystal â'r ystod eang o bersonau a restrir yn Atodlenni 6 ac 8, y gellid ei gwneud yn ofynnol iddynt gydymffurfio â safonau, gallai arfer swyddogaethau'r Comisiynydd o dan y Mesur olygu bod deiliaid swyddi perthnasol yn dod i gysylltiad â chwmnïau preifat a chyrff eraill mewn sefyllfaoedd lle nad oes safonau'n gymwys. Er enghraifft, bydd gan y Comisiynydd y pŵer i ymchwilio i honiadau ynghylch ymyrryd â rhyddid unigolion i siarad Cymraeg gyda'i gilydd yng Nghymru, ac i baratoi adroddiadau am y cyfryw honiadau, neu i ddwyn achosion cyfreithiol neu i ymyrryd ynddynt. O'r herwydd, mae'r buddiannau hyn sy'n ymwneud â chyfrannau a swyddi cyfarwyddwyr wedi'u cynnwys yn y rheoliadau er mwyn sicrhau tryloywder ac uniondeb.

 

 

 

Ymgynghori

 

20. Ni chynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus am yr egwyddorion polisi nac am y rheoliadau, a hynny oherwydd na fyddant yn cael effaith uniongyrchol ar y sector cyhoeddus, y sector preifat na'r sector gwirfoddol.

 

Asesiad Effaith Rheoleiddiol

 

21. Ni pharatowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol oherwydd na fydd y rheoliadau'n cael effaith berthnasol ar fusnesau, nac ar y sector gwirfoddol, na llywodraeth leol nac eraill.

 

22. Nid yw'r ddeddfwriaeth hon yn cael unrhyw effaith ar ddyletswyddau statudol (adrannau 77 -79 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006) nac ar bartneriaid statudol (adrannau 72-75 o'r Ddeddf honno).